Math | melysion |
---|---|
Yn cynnwys | afal |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Melysfwyd sy'n boblogaidd yng Ngwledydd Prydain yn ystod tymor yr hydref yw afal taffi.[1] Dodir afal ffres ar wäell a'i drochi mewn surop siwgr berwi sydd wedi ei liwio'n goch. Gadewir i'r surop galedu ar groen yr afal. Gwerthir yn y ffair, ac erbyn heddiw caiff yr afal taffi ei lapio mewn seloffen i'w gadw'n lân.[2] Bwyteir yn aml i ddathlu Calan Gaeaf a Noson Guto Ffowc.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search